Cyhoeddi cynllun newydd i helpu pobl â dementia
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun newydd £1m i recriwtio gweithwyr gofal i helpu pobl â dementia fel rhan o'i hymgyrch i drin y clefyd.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford ddydd Iau ei fod eisiau i fyrddau iechyd weithio tuag at gyfradd diagnosis o 50% erbyn 2016.
Mae'r Gymdeithas Alzheimer's yn amcangyfrif mai dim ond 43% o'r bobl â dementia yng Nghymru sydd wedi cael ei gadarnhau yn glinigol.
Mae'r cynllun yn cynnwys cyllid ar gyfer 32 o weithwyr gofal a phedwar nyrs gofal newydd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd cartrefi preswyl a nyrsio hefyd yn cael cymorth ychwanegol i hyfforddi staff a gwneud eu hadeiladau'n fwy addas i bobl â dementia.
'Gwella cyfraddau diagnosis'
Yn 2014, amcangyfrifwyd bod 43,477 o bobl yng Nghymru yn byw â dementia, ac mae disgwyl i'r nifer gynyddu i dros 55,000 erbyn 2021.
Dywedodd Mr Drakeford: "Ein nod yw gwella cyfraddau diagnosis dementia ar draws y wlad a rhoi cymorth gwell i bobl sydd wedi cael diagnosis. Mae'n rhaid i ni sicrhau eu bod nhw a'u teuluoedd yn gallu cael y gofal a'r wybodaeth gorau posibl."
Mae'r gweinidog eisiau gweld mwy o feddygfeydd teulu yn dilyn hyfforddiant dementia, gan mai dim ond 30% o feddygfeydd teulu yng Nghymru sydd wedi ei gwblhau hyd yn hyn.