Terfysgwyr yn cael eu hyfforddi yng nghefn gwlad Cymru

  • Cyhoeddwyd
CymruFfynhonnell y llun, Google

Mae rhannau o gefn gwlad Cymru wedi cael eu defnyddio i hyfforddi terfysgwyr, yn ôl yr heddlu.

Dywedodd swyddog gydag Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru (WECTU) wrth gynghorwyr bod rhannau o ganolbarth a gorllewin Cymru wedi cael eu defnyddio gan fudiadau eithafol.

Wrth siarad gyda chynghorwyr Ceredigion, dywedodd y Ditectif Gwnstabl Gareth Jones bod terfysgwyr wedi bod yn mynd yno ar gyfer "hyfforddiant bondio neu radicaleiddio".

Ychwanegodd na ddylai pobl anwybyddu'r ffaith fod rhwydweithiau terfysgol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r dinasoedd mawrion.

"Yn sicr mae'n ymestyn i ardal Heddlu Dyfed Powys," meddai, gan ddweud bod rhannau o Geredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Phowys wedi dod i gysylltiad â'r mater hefyd.

'Difaterwch: Ein gelyn gwaethaf'

Fe atgoffodd y cynghorwyr hefyd bod un o'r ddau wnaeth lofruddio'r Ffiwsiliwr Lee Rigby - Michael Adebowale - wedi mynd i Sefydliad Ewropeaidd y Gwyddorau Dynol ger Llanybydder yn Sir Gaerfyrddin.

Credir fod rhai o'r terfysgwyr oedd yn gyfrifol am ymosodiadau bomio Llundain ar 7 Gorffennaf 2005 wedi cwrdd yn Y Bala wythnosau cyn y digwyddiad.

Dywedodd DC Jones bod Cymru "wedi bod yn amlwg mewn nifer o weithredoedd terfysgol o'r flaenoriaeth uchaf yn y DU".

"Peidiwch â meddwl felly nad yw Cymru yn rhan o'r pethau yma, oherwydd yn anffodus, mae hi. Rwy'n credu mai difaterwch yw ein gelyn gwaethaf yn hynny o beth."

Dywedodd y Cyngnhorydd Mark Cole, sy'n cynrychioli Aberteifi ar Gyngor Ceredigion, wrth y BBC bod y cyfarfod gyda WECTU yn rhan o ymgais y cyngor i gael gwybodaeth gan yr heddlu wedi i astudiaethau Michael Adebowale gael eu datgelu.

"Cafodd hynny ei nodi fel esiampl o pam y mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus," meddai.

"Dyw byw mewn ardal wledig ddim yn golygu nad oes modd radicaleiddio pobl."