Stephen Crabb yn croesawu cefnogaeth y banciau
- Cyhoeddwyd

Mae Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb wedi croesawu llythyr agored gan 100 o arweinwyr busnes yn cefnogi polisïau economaidd y Ceidwadwyr.
Yn eu plith mae Malcolm Walker, pennaeth cwmni Iceland Foods, o Sir y Fflint.
Mae'r llythyr yn rhybuddio y byddai llywodraeth Lafur yn "bygwth swyddi ac atal buddsoddiad".
Mae'r blaid Lafur wedi wfftio'r llythyr, a gafodd ei gyhoeddi ym mhapur newydd y Daily Telegraph ddydd Mercher.
Wrth ymgyrchu yn Llanelwy, dywedodd Mr Crabb y byddai polisïau'r Ceidwadwyr yn "dwyn ffrwyth" ar draws y wlad.
"Mae busnesau wedi dod ynghyd i ddweud, 'dydyn ni ddim angen troi ein cefnau ar y cynllun hwn - rydyn ni angen cadw at y llywodraeth sydd gennym, sydd wedi gwneud penderfyniadau anodd ac wedi cyflwyno sail ar gyfer adferiad economaidd cryf'", meddai wrth BBC Cymru.
"Mae yna nifer o enwau yna sydd wedi dechrau bywyd gydag ychydig iawn - maen nhw'n gwybod beth yw gwaith caled, adeiladu busnes a gweld y busnes hwnnw'n tyfu," ychwanegodd Mr Crabb.
"Maen nhw'n gwybod bod y polisïau rydyn ni wedi'u gosod allan ar gyfer y wlad yn gywir ar gyfer twf busnes."
Mae Duncan Bannatyne, Y Farwnes Karren Brady, Syr Cameron Mackintosh a sefydlydd Carphone Warehouse Syr Charles Dunstone ymhlith yr arweinwyr busnes sydd wedi arwyddo'r llythyr.