Cyhuddo cynghorydd sir o'r Barri o ymosodiad rhywiol
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd Llafur amlwg o'r Barri wedi ymddangos gerbron ynadon ar gyhuddiad o ymosodiad rhywiol ar ddynes ar Ynys Sgomer, Sir Benfro, fis Mehefin y llynedd.
Mae Rob Curtis, cynghorydd sir ym Mro Morgannwg, wedi ei gyhuddo o ymosod ar ddynes dros 16 oed ar warchodfa natur ar yr ynys.
Cafodd ei ryddhau ar fecanwaith nes 14 Ebrill gan Lys Ynadon Hwlffordd.