'Angen gwneud mwy' ar ffordd yn Abertawe yn dilyn damwain

  • Cyhoeddwyd
Ffordd y BreninFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Fe ddigwyddodd y ddamwain ddydd Mawrth ger y groesfan yma ar Ffordd y Brenin

Mae angen newid y drefn ar ffordd yng nghanol Abertawe, ble mae dau berson wedi marw o fewn 18 mis, yn ôl busnesau.

Bu farw'r heddwas Sarjant Louise Lucas ar ôl cael ei tharo gan fws ar Ffordd y Brenin ddydd Mawrth, ac fe wnaeth ei merch wyth oed dderbyn mân anafiadau.

Ym mis Medi 2013 bu farw Daniel Foss, 37 oed o'r Gŵyr, ar ôl cael ei daro gan fws National Express.

Mae Cyngor Abertawe yn gosod rhwystrau dros dro, ond mae busnesau eisiau gweld mwy o newidiadau.

Maen nhw eisiau i'r ffordd gael ei newid yn ôl i system ddwy ffordd syml, fel yr oedd hi cyn i newidiadau gael eu gwneud i'r ffordd yn 2006 i wneud lle i fysiau metro mwy.

Ar hyn o bryd, mae un ochr o'r ffordd ddeuol yn unffordd ar gyfer traffig arferol, ac mae'r ochr arall yn system ddwyffordd ar gyfer bysiau a thacsis.

'Problem beryg'

Mae Richard Jones, perchennog Moda Collections ar y ffordd, wedi beirniadu'r penderfyniad i gyflwyno rhwystrau.

"Does dim pwrpas iddo, wneith o ddim helpu na gwella'r broblem, achos cafodd y person cynta' fu farw ei ladd ar y groesfan," meddai.

"Y broblem yw'r ffyrdd metro - maen nhw'n beryg am eu bod nhw'n mynd yn erbyn llif naturiol y ffordd ddeuol.

"Mae'n rhaid iddyn nhw stopio'r bysiau rhag rhedeg i'r dwyrain ar un ffordd. Rwy'n gweld pobl yn camu allan i'r ffordd a bron yn cael eu taro.

"Mae'n anhygoel ein bod wedi cyrraedd y sefyllfa yma ble ry'n ni wedi cael ail farwolaeth."

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Marwolaeth Louise Lucas oedd yr ail ar y ffordd o fewn 18 mis

Mae dros 3,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am newidiadau, yn cynnwys dychwelyd i'r system ddwyffordd draddodiadol. Yn dilyn y farwolaeth gyntaf ar y ffordd, fe wnaeth y cyngor ymateb drwy ostwng cyflymdra'r ffordd i 20mya y llynedd.

Ychwanegodd Julie Williamson o Ffederasiwn Busnesau Bach Bae Abertawe: "Rwy'n teimlo bod rhaid gwneud rhywbeth dramatig, ond rwy'n falch bod y cyngor wedi gweithredu yn y tymor byr.

"Mae hi'n drist iawn i feddwl bod rhywbeth fel hyn yn gorfod digwydd cyn i rywun ymchwilio i'r sefyllfa."

Dywedodd y cynghorydd Mark Thomas, aelod cabinet y cyngor dros yr amgylchedd a thrafnidiaeth: "Rydyn ni nawr yn cymryd camau i wella diogelwch ar gyfer cerddwyr gan gyflwyno rhwystrau dros dro ar hyd canol Ffordd y Brenin.

"Fe fydden ni'n cynnal trafodaethau brys gyda'r heddlu a chwmnïau bysiau i ystyried mesurau diogelwch pellach fydd, os oes cytuno, o bosib yn cynnwys newid llwybrau'r bysiau a newid eu cyfeiriad ar y ffordd."