Twyllo'r Cynulliad: Dynes yn y llys
- Cyhoeddwyd

Mae Tracey Baker yn gwadu twyllo'r Cynulliad o fwy na £100,000
Mae dynes wedi ymddangos yn y llys wedi ei chyhuddo o dwyllo'r Cynulliad o fwy na £100,000.
Mae Tracey Baker, 44 oed, wedi ei chyhuddo o honni ei bod hi'n gweithio i'r cwmni sy'n darparu deunydd glanhau i'r Cynulliad Cenedlaethol gan ddweud fod manylion banc y cwmni wedi newid - a rhoi ei manylion personol.
Fe glywodd Llys Ynadon Croydon bod y Cynulliad wedi trosglwyddo £104,000 i'r cyfrif rhwng mis Chwefror a Mai y llynedd.
Mae Baker yn gwadu'r cyhuddiad.
Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth i ymddangos yn Llys y Goron Croydon ar 16 Ebrill.