Lluniau anweddus: Heddwas yn y llys
- Published
Mae heddwas Heddlu Gogledd Cymru yn y ddalfa wedi iddo gael ei gyhuddo o fod â delweddau anweddus o blant yn ei feddiant a cheisio paratoi merch 12 oed i bwrpas rhywiol.
Cafodd James Calveley Evans, 33 oed o Fostyn, ei wahardd o'i swydd a chafodd cais am fechnïaeth ei wrthod yn Llys Ynadon Sir y Fflint yn Yr Wyddgrug.
Bydd yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ac mae disgwyl gwrandawiad rhagarweiniol ar 10 Ebrill.
Cafodd Mr Evans ei gyhuddo o fod â 11 llun anweddus o blant ar 31 Mawrth.
Mae hefyd yn cael ei gyhuddo o fod wedi ceisio trefnu ar e-bost gyfarfod â merch 12 oed ar gyfer cyflawni trosedd rywiol.