Pledio'n euog i ddefnyddio ffrwydron i ddwyn arian
- Published
Mae dau wedi cyfaddef bod yn rhan o gynllwyn ble cafodd ffrwydron eu defnyddio er mwyn dwyn o ddau dwll yn y wal yn ne Cymru.
Yn Llys y Goron Caerdydd plediodd Russel Luke Bennett, 21 oed o Totterdown, Bryste, yn euog i gyhuddiad o gynllwynio i achosi ffrwydrad, ac un cyhuddiad o fyrgleriaeth.
Roedd Benjamin Brian Barrett, 30 oed o Bishopsworth, Bryste, eisoes wedi pledio'n euog i gyhuddiad o gynllwynio i achosi ffrwydrad, ac un cyhuddiad o fyrgleriaeth.
Bydd y ddau'n cael eu dedfrydu ar 30 Ebrill.
Dechreuodd yr heddlu ymchwilio ar Hydref 25, 2014, wedi i £45,000 gael eu dwyn o Fanc Barclays ar Stad Ddiwydiannol Trefforest ger Pontypridd.
Ar Dachwedd 2, 2014, cafodd £36,000 eu dwyn o Fanc Barclays ar Stad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr.