Newid y drefn ble oedd damwain farwol
- Published
Ar ôl marwolaeth plismones ar Ffordd y Brenin, Abertawe, bydd y cyngor yn newid y drefn ar y ffordd.
Bu farw'r Sarjant Louise Lucas, 41 oed wedi i fws ei tharo a chafodd ei merch wyth oed fân anafiadau ddydd Mawrth.
Bydd traffig yn cael ei atal rhag teithio'n ddwyreiniol a bydd ddim ond yn gallu teithio i un cyfeiriad.
Hon oedd yr ail farwolaeth mewn 18 mis.
Dywedodd y cyngor y byddai rhwystrau'n cael eu gosod ar y llain ganol.
Ym Medi 2013, bu farw Daniel Foss, 37 oed o Reynoldston, Penrhyn Gŵyr, wedi i fws National Express ei daro.
Hyd yn hyn mae bron 3,000 wedi arwyddo deiseb yn galw am newid y drefn ar y ffordd.
Dywedodd arweinydd y cyngor Rob Stewart fod y cyngor "yn drist iawn" oherwydd marwolaeth Sarjant Lucas ac yn cydnabod bod y cyhoedd "wedi codi pryderon" am y ffordd.
'Cydweithio'
"Ers tipyn," meddai, roedd y cyngor yn anelu at wella'r ffordd.
"Bydd rhai mesurau'n cael eu cyflwyno cyn gynted ag y bo modd ac rydyn ni'n cydweithio â chwmnioedd bysus ...
"A bydd mesurau eraill yn cael eu cyflwyno maes o law."
Mae'n debyg y bydd rhaid disgwyl rhwng 10 a 12 wythnos cyn cyflwyno rhai newidiadau oherwydd bod rhaid i'r Comisiynydd Traffig eu cymeradwyo.