Dedfryd ohiriedig: Gyrru o flaen trên
- Cyhoeddwyd

Roedd yr achos yn Llys Ynadon Dolgellau
Mae dyn 85 oed wedi cael dedfryd ohiriedig o bedwar mis ar ôl iddo yrru o flaen trên ar groesfan.
Plediodd yn euog i gyhuddiad o beryglu diogelwch ar y rheilffordd.
Tarodd car Jack Elliott o Ddyffryn Ardudwy, Gwynedd, drên Arriva wedi iddo adael Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant yn Harlech.
Yn Llys Ynadon Dolgellau cafodd orchymyn i dalu costau o £165.
Caniatâd
Roedd 30 o deithwyr ar y trên ond chafodd neb ei anafu.
Clywodd y llys nad oedd wedi ffonio'r ganolfan ym Machynlleth er mwyn cael caniatâd i groesi'r lein.
Yn lle hynny roedd gyrrwr arall wedi dweud bod y trên wedi mynd a dibynnodd y diffynnydd ar y cyngor hwnnw.
Dywedodd cadeirydd y fainc Alun Pugh: "Fe wnaeth yr hyn wnaethoch chi beryglu eich bywyd chi a bywyd y teithwyr ar y trên."