Cwmni cychod o Benarth yn ennill anghydfod dros eu gwefan
- Cyhoeddwyd

Mae rheoleiddwyr wedi penderfynu fod yn rhaid i gyn-gyfarwyddwr cwmni cychod o Fae Caerdydd drosglwyddo un o gyfeiriadau rhyngrwyd y cwmni yn ôl iddynt.
Roedd Ryan Hopkins, o Gaerdydd, wedi cadw rheolaeth a'r hawliau i barth boattripscardiff.co.uk ar ôl iddo adael cwmni Cardiff Bay Leisure Ltd yn 2011.
Mae Cardiff Bay Leisure Ltd yn gwmni sy'n cynnig teithiau arfordirol mewn cychod.
Honnodd y cwmni fod ei ddefnydd parhaus o'r parth wedi torri eu hawliau.
Mae corff sy'n delio gydag anghydfodau o'r math yma, wedi dyfarnu fod rheolaeth Mr Hopkins o'r safle yn achos o "gam-drin" ac maent wedi dweud wrtho am roi'r gorau i'r hawliau.
'Eiddo'r Cwmni'
Mae corff, Nominet yn arbenigo mewn anghydfodau ar y rhyngrwyd, ac fe ddaethant i benderfyniad ar y mater ddydd Llun.
Dywedodd arbenigwr Nominet, Matthew Harris fod Mr Hopkins wedi cofrestru parth y cwmni yn ddigidol tra'n gweithio i Cardiff Bay Leisure Ltd ym mis Mawrth, 2009.
Roedd y cwmni yn mynnu fod Mr Hopkins wedi torri addewid i "ddychwelyd holl eiddo a chyfarpar y cwmni" fel rhan o'i gytundeb diswyddo yn 2011.
Ond honnodd Mr Hopkins mai ef yn bersonol oedd "perchennog cyfreithiol" y parth.
Dywedodd ei fod wedi ei brynu er mwyn ei "ddefnyddio gydag unrhyw gwmni yr oedd am weithio iddynt".
Dywedodd yr arbenigwr Nominet, fodd bynnag, nad oedd yn anodd iddo ddyfarnu o blaid Cardiff Bay Leisure Ltd.
Dywedodd Mr Harris, fod gan y cwmni cychod, sydd wedi'i leoli ym marina Penarth, Bro Morgannwg, "rhyw fath o hawliau cyfreithiol i'r enw" sy'n gynwysedig yn y parth.
"O dan yr amgylchiadau," meddai, "Mae Cardiff Bay Leisure Ltd wedi profi bod y ffaith fod y parth, yn parhau i fod wedi ei gofrestru yn enw Mr Hopkins, yn gamdriniaeth o'i sefyllfa."
Mae'r arbenigwr wedi gorchymyn i'r parth ar y we yn i gael ei drosglwyddo i'r cwmni.