Dadl: 'Cyfle euraid i'r pleidiau'

  • Cyhoeddwyd
dadl yr arweinwyrFfynhonnell y llun, ITV

Nid hon oedd y ddadl fydd yn newid yr etholiad. Doedd yna ddim moment dyngedfennol i newid barn pobl yn sylweddol. A gyda saith arweinydd yn cystadlu am amser, roedd hi wastad yn mynd i fod yn anodd i un person ddisgleirio dros y lleill.

Ac mae hynny yn cael ei adlewyrchu yn yr arolygon gafodd eu cyhoeddi yn syth ar ôl y ddadl, dim un ohonyn nhw'n cytuno ar bwy ddaeth i'r brig.

Ond petai'n rhaid i mi roi fy mhen ar y bloc fe fuaswn i'n dweud mai Nicola Sturgeon fyddai hapusaf wrth adael y llwyfan. Roedd hi'n hyderus ac awdurdodol, ac yn barod i herio'r prif bleidiau ar eu cynlluniau i dorri ymhellach yn y Senedd nesaf.

Roedd yna gyfnodau da i Leanne Wood hefyd, hi gafodd y clap cyntaf gan y gynulleidfa wrth iddi ymosod ar Nigel Farage am godi bwgannod ar fewnfudwyr gyda HIV, ond prin oedd ei chyfraniadau i'w gymharu â Nicola Sturgeon.

Cyfle euraid

Ond heb os roedd hwn yn gyfle euraid i'r pleidiau llai i rannu eu neges gyda chynulleidfa llawer ehangach na'r arfer, a chyda neges unedig yn erbyn cynni ariannol pellach, fe allen nhw weld rywfaint o hwb ymysg pobl sydd heb benderfynu sut i bleidleisio eto.

Cyn y ddadl ffefryn y bwcis oedd Nigel Farage, ac fe wnaeth o'n weddol dda yn yr arolygon barn. Ond drwy siarad am ddim byd ond mewnfudo, fe fydd o wedi rhannu'r gynulleidfa ac wedi methu cyfle i hybu ei gefnogaeth.

Yn amlwg yn ymwybodol iawn mai fo oedd â'r mwyaf i'w golli, tacteg David Cameron oedd i gadw'n dawel, peidio gwneud unrhyw gamgymeriad mawr a cheisio sefyll yn ôl o'r dadlau a checru ac edrych yn brif weinidogol.

Y peryg 'efo hynny oedd nad oedd o'n edrych fel ei fod eisiau bod yn rhan o'r drafodaeth ar adegau.

Herio o'r chwith

Roedd Ed Miliband hefyd yn awyddus i ddangos ei fod yn gymwys i fod yn Brif Weinidog, ac ar ei orau pan yn herio David Cameron yn uniongyrchol. Ond mewn dadl saith person prin oedd y cyfleoedd hynny, ac roedd yntau yn cael ei herio o'r chwith gan Plaid Cymru, yr SNP a'r Blaid Werdd, all fod yn niweidiol.

Ac efallai mai Nick Clegg oedd â'r her fwyaf heno. Waeth pa mor dda oedd ei berfformiad y tro hwn doedd o byth yn mynd i serenu fel y gwnaeth yn 2010.

Ond wedi dweud hynny oll dw i'n amau yn fawr y bydd hwn yn newid trywydd yr etholiad mewn unrhyw ffordd, yn enwedig gyda phum wythnos dal i fynd tan i'r polau sy'n cyfri agor.