Tân Pentraeth: Ymchwiliad ar droed
- Cyhoeddwyd

Ar Ynys Môn, mae ymchwiliad ar droed wedi tân mawr mewn gorsaf betrol ym mhentre' Pentraeth ddydd Gwener.
Fe gafodd pobl sy'n byw ar stâd Nant y Felin gerllaw eu symud o'u cartrefi yn ystod oriau mân y bore.
Fe agorodd swyddogion ganolfan dros dro yn ysgol Pentraeth, ond mae trigolion wedi cael dychwelyd i'w cartrefi erbyn hyn.
Bu'r ffyrdd o amgylch yr adeilad ynghau am rhai oriau, ond mae'r A5025 ar agor eto, nawr.
Mae Sandra Robinson Clark yn byw ar stâd Nant y Felin.
Fe ddywedodd bod yr heddlu wedi ei deffro toc cyn 5.00am. Mae hi wedi canmol yr heddlu am y cymorth ac am agor yr ysgol iddyn nhw ei defnyddio fel lloches.
Mewn datganiad, fe ddywedodd y gwasanaeth tân eu bod nhw wedi cael eu galw i'r A5025 toc wedi 4.00am.
Bu criwiau o Borthaethwy, Llangefni, Biwmares, Bangor, Y Rhyl a Chaernarfon yn ceisio diffodd y fflamau.