Llysgenhadon i rybuddio am beryglon y Kingsway
- Cyhoeddwyd

Mae ymgyrch ar droed i hybu diogelwch ar ffordd yng nghanol Abertawe, wedi i fenyw farw ar ôl cael ei tharo gan fws.
Bu farw Louise Lucas - plismones a mam i dri o blant - yn y ddawmain ar y Kingsway ddydd Mawrth.
Nawr, mae Richard Jones o grŵp Datblygu Busnes Rhanbarth Abertawe yn dweud y bydd "llysgenhadon" ar y ffordd i roi gwybodaeth am ddiogelwch i gerddwyr.
Y grŵp sy'n gyfrifol am ariannu'r prosiect.
Dywedodd Mr Jones: "Fe fydd y llysgenhadon yno yn ystod yr oriau brig - ddydd Gwener a dydd Sadwrn - yn rhybuddio pobl am beryglon y traffig."
Wedi marwolaeth Sarjant Lucas, mae cyngor Abertawe wedi cyhoeddi nad fydd cerbydau'n cael teithio i'r dwyrain ar y ffordd.
Yn ogystal, bydd bariau'n cael eu gosod ar llain ganol y ffordd, a bydd y system draffig yn y lon fysiau yn cael ei newid "cyn gynted â phosib".
Mae gan y system bresennol ddwy lon o draffig cyffredinol yn teithio i'r gorllewin ar un ochr, a dwy lon o drafnidiaeth cyhoeddus - yn theithio i'r ddau gyfeiriad - ar yr ochr arall.
Straeon perthnasol
- 2 Ebrill 2015