Rhybudd am nofio mewn chwarel yn Sir Ddinbych

Moel-y-Faen Quarry Image copyright John S Turner/ Geograph
Image caption Mae Moel-y-Faen yn fan poblogaidd ymysg plymwyr a nofwyr

Mae 'na rybudd i nofwyr beidio ag ymweld â chwarel "beryglus" yn Sir Ddinbych.

Fe gafodd un person ei anafu'n ddifrifol yn chwarel Moel-y-Faen y llynedd.

Mae pobl yn teithio o bell i drochi ym mhwll y chwarel.

Ar hyn o bryd, mae peiriannau'n cael eu defnyddio i lenwi'r pwll - sy'n golygu fod y safle "yn fwy peryglus na'r arfer".

Fe ddywedodd Graham Gibson - o gwmni Peirianwyr Sifil y Brodyr Jones, sy'n berchen ar y safle - ei bod hi'n bosibl nad yw pobl yn ymwybodol am y gwaith sy'n mynd rhagddo ar y safle ar y funud.

"'Da ni'n awyddus i roi gwybod i bobl nad yw'r pwll yn atyniad cyhoeddus. Mae'n beryglus oherwydd y gwaith sy'n mynd ymlaen," meddai.