Cofio Cymry Waterloo
- Cyhoeddwyd
Mae arddangosfa ar y gweill yn Amgueddfa Pont-y-pŵl i gofio dynion lleol gymrodd ran ym mrwydr Waterloo.
Bu dynion Dug Wellington yn fuddugol mewn brwydr yn erbyn Napoleon Bonaparte a'i lu ym mis Mehefin 1815.
Daeth y frwydr ag 20 mlynedd o wrthdaro rhwng Prydain a Ffrainc i ben.
Mae'r amgueddfa yn gobeithio adrodd straeon y dynion lleol fu'n rhan o'r frwydr, yn ogystal â chyfraniad y gwaith haearn yn yr ardal, fu'n darparu canonau i'r lluoedd.
Fe ddywedodd dirprwy gadeirydd yr amgueddfa fod ymchwilwyr gwirfoddol wedi treulio misoedd yn chwilota'r archifau am hanes dwsin o filwyr o'r ardal.
"Be' wnaeth fy synnu i yw fod rhai o'r teuluoedd wedi dilyn eu gwyr i Waterloo, a bod rhai o'r gwragedd a'r plant yn brwydro hefyd.
"Fe ddaethon ni o hyd i hanes un wraig oedd yn feichiog - aeth allan i faes y frwydr i chwilio am ei gwr, oedd wedi ei anafu.
"Fe gollodd e ei freichiau, a chafodd hithau ei hanafu... Fe roddon nhw'r enw canol 'Waterloo' i'w merch".