Prysurdeb i deithwyr dros y Pasg
- Cyhoeddwyd

Mae cyngor i yrwyr a theithwyr ar drenau yng Nghymru ddisgwyl cryn brysurdeb wrth deithio dros benwythnos y Pasg.
Mae disgwyl i 16 miliwn o yrwyr fod ar y ffyrdd yn y DU, gyda phedair miliwn yn teithio ar dydd Gwener y Groglith a 4.5 miliwn ddydd Sul.
O ran y rheilffyrdd, mae First Great Western yn rhybuddio am oedi i deithwyr rhwng Abertawe a Llundain oherwydd gwaith ar y rheilffyrdd.
Gall teithwyr weld ydi eu siwrne nhw wedi ei heffeithio ar wefan Trenau Arriva Cymru.
Mae 'na wybodaeth i yrwyr am unrhyw oedi ar y ffyrdd ar wefan Traffig Cymru.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r De: "Mae gofyn i yrwyr wneud yn siwr eu bod nhw'n gwybod am unrhyw waith ar y ffyrdd, a gadael digon o amser ar gyfer eu taith."
Mae disgwyl i faes awyr Caerdydd fod yn brysur gydol y penwythnos, wrth i fwy na 11,000 o deithwyr hedfan o'r brifddinas.
Ymysg y llefydd mwyaf poblogaidd, mae Amsterdam, Dulyn, Tenerife, Malaga a Alicante.