'Eiliadau atgyfodiad': Neges Archesgob Cymru
- Cyhoeddwyd

Gall gweld Duw ar adegau annisgwyl newid ein bywydau, meddai Archesgob Cymru, yn ei neges ar benwythnos y Pasg
Mae Dr Barry Morgan yn annog pobl i edrych am Dduw ar "eiliadau atgyfodiad" - drwy wrando ar gerddoriaeth, edrych ar fachlud hardd neu gael ein cyffwrdd gan garedigrwydd dieithriaid neu ffrindiau.
Meddai Dr Morgan:
"Nid yw'r rhesymau y daw pobl i ffydd neu fod ganddynt ffydd wedi'u seilio ar reswm yn y pen draw, er y gall hynny fod â rhan.
"Yn y pen draw, mae'n ymwneud â'r teimlad fod Duw wedi galw arnom a siarad gyda ni ar rai eiliadau yn ein bywydau ac wedi ymateb yn gadarnhaol - ac mae'r galw hwnnw'n digwydd ym mhob math o ffyrdd."
Gweithredoedd annisgwyl
Mae eiliadau atgyfodiad yn digwydd pan welwn weithredoedd annisgwyl o garedigrwydd gan ddieithriad, maddeuant, haelioni ac aberth, meddai'r Archesgob.
"Gwelwn rym Duw ar waith pan fo offeiriad yn Syria'n gwrthod gadael ei gynulleidfa sydd dan warchae ac yn marw fel canlyniad; pan fo rhieni plant a lofruddiwyd yn maddau i'r sawl a'u lladdodd; pan fo pobl dlawd yn rhannu'r ychydig sydd ganddynt i helpu eraill; pan fo gweithred o garedigrwydd annisgwyl gan ddieithryn â hanfod ein bodolaeth; pan fo pobl yn rhoi buddiannau pobl eraill o flaen eu lles eu hunain.
"Mae'r rhain yn eiliadau o ddatguddiad ac yn eiliadau o drawsnewid, oherwydd gwnânt i ni sylweddoli fod gweithredoedd o ddaioni mewn sefyllfaoedd sy'n llawn drygioni a gorthrwm yn eiliadau a all newid popeth ac sy'n mynd i graidd yr hyn yw bod yn wirioneddol ddynol.
"Dylent ein galluogi nid yn unig i newid y ffordd yr edrychwn ar bethau ond y ffordd yr ydym yn byw ein bywyd bob dydd. Maent yn eiliadau atgyfodiad."
Yn effro
Dywedodd Dr Morgan fod eiliadau atgyfodiad yn rhoi gobaith i ni.
"Mae cael ffydd yn golygu cadw at y gobaith hwnnw hyd yn oed yn ystod, efallai yn arbennig yn ystod ein horiau tywyllaf, pan gall ymddangos fod angen ein holl egni ddim ond i ddal ymlaen ati gyda blaenau'n bysedd.
"Ein gobaith ddylai fod pan gaiff y golau hwnnw ei ddatguddio, y gallwn fod yn effro i'w bresenoldeb ac ymateb iddo gyda diolch a llawenydd."