'Ystyried dyfodol' cartref plant yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau eu bod yn ystyried dyfodol cartref preswyl sy'n darparu llety i blant o gefndiroedd cythryblus.
Mae Drws y Nant yng Nghaernarfon yn cael ei redeg gan elusen Gweithredu Dros Blant ar ran y cyngor.
Nod y cartref yw darparu llety byr-dymor i bobl ifanc a cheisio lleihau ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
Nawr, mae'r cyngor yn dweud fod toriadau i'r gyllideb, a chyfnod recriwtio llwyddiannus o ran dod o hyd i ofalwyr maeth, yn golygu fod dyfodol y ganolfan yn cael ei drafod.
'Hynod ragweithiol'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd:
"Yn unol â Deddf Plant 1989, mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo pa bryd bynnag mae hynny'n bosib i leoli plant a phobl ifanc sydd angen gofal llywodraeth leol gyda theuluoedd yn hytrach na mewn cartref preswyl plant traddodiadol.
"Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym fel Cyngor wedi bod yn hynod ragweithiol yn recriwtio gofalwyr maeth newydd. Mae'r ffaith fod y gwaith yma wedi bod mor llwyddiannus wedi golygu fod yr angen am gartref preswyl i blant yng Ngwynedd wedi gostwng yn sylweddol.
"Oherwydd llwyddiant ein rhaglen recriwtio gofalwyr maeth ynghyd a'r ffaith ein bod yn wynebu toriadau digynsail yn yr arian yr ydym yn ei dderbyn gan y llywodraeth i ddarparu gwasanaethau lleol, rydym ar hyn o bryd yn adolygu'r ddarpariaeth yng Nghartref Preswyl Plant Drws y Nant, ac yn trafod y ffordd ymlaen gyda Gweithredu Dros Blant (Action for Children) fel y darparwr gofal sy'n gyfrifol am reoli'r cartref ar ran y Cyngor."