Hague: Bygythiad i swyddi o dan Lafur
- Cyhoeddwyd

Bydd safonau byw a swyddi mewn perygl os bydd pleidleiswyr yn dewis Llafur yn yr etholiad cyffredinol, meddai cyn-arweinydd y Ceidwadwyr, William Hague, tra'n ymgyrchu yng Nghymru heddiw.
Wrth annog pobl i gefnogi ei blaid yn yr etholaeth ymylol, Gogledd Caerdydd, dywedodd fod yr economi yn ôl ar y trywydd iawn.
Enillodd y Ceidwadwyr y sedd gan lai na 200 o fwyafrif dros y Blaid Lafur yn 2010.
Dywedodd Mr Hague wrth BBC Cymru: "Mae yna 52,000 yn fwy o swyddi yng Nghymru ar ôl pum mlynedd o lywodraeth dan arweiniad y Ceidwadwyr
"Ar ôl i ni fod drwy gyfnod economaidd anodd iawn, o'r diwedd rydym yn gweld fod safonau byw yn mynd i fod yn well nag yr oeddynt bum mlynedd yn ôl.
"Felly mae'r neges yn glir, peidiwch â rhoi popeth mewn perygl drwy fynd yn ôl at y polisïau oedd gennym o'r blaen."
Yn y cyfamser, dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol y byddai'n dyblu'r cyfanswm o arian y gallai Llywodraeth Cymru ei fenthyg, o £0.5 biliwn i £1 bn.
Dywedodd Llafur fod Llywodraeth Cymru yn cael ei than-gyllido, a dywedodd UKIP y byddai'n newid y fformiwla sy'n gosod cyllideb Cymru.
Mae Plaid Cymru eisiau gweld £1 biliwn yn ychwanegol, yn uniongyrchol o San Steffan, a fyddai'n unioni Cymru â'r Alban.