Teyrngedau i hyfforddwr clwb rygbi

  • Cyhoeddwyd
keith Winstone
Disgrifiad o’r llun,
Fe ddaeth y gêm i ben wedi i Keith Winstone ddisgyn i'r llawr o flaen ei wraig a'i blant

Mae clwb rygbi ym Merthyr Tudful yn galaru wedi i hyfforddwr y clwb farw'n sydyn yn ystod gêm.

Cafodd Keith Winstone, 51 oed, ei daro'n wael, o flaen ei wraig a'i blant yn ystod gêm rhwng Clwb Rygbi Dowlais a Llantrisant ddydd Sadwrn.

Dywedodd rheolwr y Clwb, Huw Morgan fod teyrngedau wedi bod yn arllwys i mewn ar gyfer Mr Winstone, gan ddweud fod "parch aruthrol" tuag ato.

"Pobl fel Keith sy'n gwneud i rygbi weithio yng Nghymru," meddai.

"Roedd yn gymeriad uchel aruthrol ei barch ac yn gyfaill oes i lawer ohonom."

Mae Mr Winstone yn gadael gwraig, Colette, mab Alex, 17 oed, a merch Niamh, 12.