Atal arddangos sigaréts mewn siopau bach
- Published
Mae cyfyngiadau ar arddangos sigaréts a chynnyrch tybaco wedi dod i rym mewn siopau bach yng Nghymru.
Bellach, mae'n rhaid i fanwerthwyr sicrhau bod y cynnyrch yn cael eu cadw oddi wrth llygad y cyhoedd, oni bai fod cwsmer yn gofyn amdanynt.
Gallai rheolwyr a gweithwyr siopau sy'n torri'r gyfraith wynebu dirwyon o hyd at £5,000 a chwe mis yn y carchar.
Mae hyn yn dilyn cyfyngiadau tebyg a gyflwynwyd ar gyfer siopau mwy o faint ac archfarchnadoedd yn 2012.
Mae un manwerthwr o Gaerdydd, Bobby Singh, yn meddwl fod y gwaharddiad yn "druenus" ac nid yw'n credu y byddai'n annog pobl i beidio ysmygu.
"Dwi ddim yn meddwl y bydd hyn yn gwneud i unrhyw un wneud unrhyw beth yn wahanol," meddai.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cefnogi'r ddeddf newydd drwy ddweud fod y cyfyngiadau newydd yn "ddatblygiad pwysig iawn o ran gwella iechyd yng Nghymru".
Fe ychwanegodd llefarydd: "Bydd hyn yn chwarae rhan bwysig wrth leihau apêl ysmygu."