Gwrthdrawiad difrifol ar yr A470
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar ffordd yr A470 ger Llanrwst ddydd Sul.
Fe fuodd car BMW gwyn mewn gwrthdrawiad â beic modur.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am 13:30, un filltir i'r de o Fetws-y-Coed ar y ffordd tuag at Llanrwst.
Fe fydd yr A470 yn parhau ar gau o Dal-y-cafn i Fetws-y-coed hyd nes hysbysir yn wahanol.