Clawdd Offa: Cludo dringwraig i'r ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae dringwraig wedi ei chludo i ysbyty arbenigol wedi iddi syrthio 20 troedfedd ger Llangollen ddydd Sul.
Fe gafodd hofrennydd yr Awyrlu ei galw i gludo'r ddynes - sydd yn ei 30au - i Ysbyty Stoke.
Cafodd tîm chwilio ac achub gogledd-ddwyrain Cymru eu galw, yn ogystal.
Fe gafodd y ddynes ei hanafu wrth syrthio yn ardal Clawdd Offa.