Wylfa: 'Y cyfle gorau ers cenhedlaeth'

  • Cyhoeddwyd
Wylfa
Disgrifiad o’r llun,
Mae disgwyl i ryw 6,800 o bobl gael eu cyflogi i adeiladu'r pwerdy newydd

Mae adroddiad yn edrych ar allu busnesau Cymru i ymateb i'r datblygiadau yn y diwydiant niwclear dros yr 20 mlynedd nesaf wedi ei gyhoeddi ddydd Mawrth.

Yn ôl amcangyfrifon, byddai'r cynllunio, yr adeiladu, y gweithredu a'r datgomisiynu yn werth tua £5.7 biliwn i economi Cymru rhwng 2013 a 2033.

Cyfanswm y gwerth ychwanegol i economi Cymru o'r cynllunio, yr adeiladu, y gweithredu a'r datgomisiynu fydd oddeutu £5.7 biliwn rhwng 2013 a 2033, yn ôl y rhagamcanion

Fe gafodd yr adroddiad annibynnol ei lunio gan Miller Research, a'i gomisiynu gan Llywodraeth Cymru.

Mae'r adroddiad manylu ar dri phrif bwnc:

  • Y buddsoddiad arfaethedig yn y gwaith o adeiladu a datgomsiynu pwerdai yng Nghymru;
  • Gallu cwmnïau Cymru;
  • Y rhagolygon i'r busnesau os ydyn nhw'n manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael.

Yn ogystal, mae'r ddogfen yn rhybuddio "y gallai Cymru golli allan os nad yw busnesau'n mynd amdani ac yn bachu'r cyfleoedd newydd".

Y FFIGYRAU

Yn ôl yr amcangyfrifon, bydd yn costio oddeutu £14 biliwn i gynllunio ac adeiladu Wylfa Newydd, a bydd £3.7 biliwn arall yn cael ei fuddsoddi unwaith y bydd Wylfa Newydd yn weithredol.

Mae disgwyl i ryw 6,800 o bobl gael eu cyflogi i adeiladu'r pwerdy newydd.

Erbyn 2025, byddai 875 yn gweithio yn y pwerdy niwclear ei hunan.

Rhwng 2013 a 2033, rhagwelir y bydd y gwaith cynllunio, adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw yn dod â £2.4 biliwn o werth ychwanegol (GVA) i gynnyrch mewnwladol (GDP) Cymru.

Pan fydd y pwerdy'n weithredol, mae disgwyl iddo gyfrannu bron i £87m mewn gwerth ychwanegol pob blwyddyn (ar sail prisiau 2013).

Mae datgomisiynu'r hen Wylfa yn debygol o gyfrannu £630m at economi Cymru dros yr ugain mlynedd nesaf, a bydd £310m ychwanegol yn dod yn sgîl datgomisiynu Trawsfynydd rhwng 2013 a 2033.

Cyfanswm y gwerth ychwanegol i economi Cymru o'r cynllunio, yr adeiladu, y gweithredu a'r datgomisiynu fydd oddeutu £5.7 biliwn rhwng 2013 a 2033, yn ôl y rhagamcanion. Mae hyn yn cynrychioli tua 0.5% o gyfanswm y GVA yng Nghymru dros yr 20 mlynedd hyn.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: "Mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir bod i'r buddsoddiad hwn botensial enfawr a chyfleoedd heb eu hail i fusnesau Cymru. Ond mae'n nodi hefyd y materion a'r canfyddiadau y mae angen inni roi sylw iddynt os ydym i fanteisio i'r eithaf.

"Dim ond unwaith mewn cenhedlaeth y daw cyfle fel hyn, ac mae angen i bawb ymdrechu gyda'n gilydd - busnesau, y diwydiant a'r sectorau cyhoeddus a phreifat - er mwyn sicrhau bod cymaint â phosibl o'r buddsoddiad yn cael ei wario yng Nghymru.

"Bydd angen i fusnesau fwrw iddi a chymryd rhan os ydyn nhw am elwa ar y manteision a ddaw. Mae Llywodraeth Cymru'n cynnig ystod eang o gymorth i helpu busnesau i gystadlu a byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i fanteisio ar y cymorth hwnnw."