Rhoi compost fferm gyffuriau i elusen

  • Cyhoeddwyd
Cannabis plantFfynhonnell y llun, PA

Mae compost gafodd ei ganfod mewn fferm gyffuriau wedi cael ei roi i elusen er mwyn tyfu llysiau a ffrwythau i fanciau bwyd.

Cafwyd hyd i dunelli o gompost mewn ffatrïoedd canabis yn Sir Benfro.

Nawr, fe fydd gwirfoddolwyr yn defnyddio'r gwrtaith i dyfu bwyd i deuluoedd mewn angen yn yr ardal.

"Mae'r amseru yn berffaith," meddai Jan Olin o'r elusen, "gan mai dyma ddechrau'r tymor tyfu. Fe fydd yn arbed llawer o arian i ni."

Fe ddywedodd James Mitchell o Heddlu Dyfed Powys: "Wedi i ni ddod o hyd i'r ffatrïoedd canabis, fe welon ni y byddai'n rhaid i'r heddlu gael gwared ar lawer o gompost a gwrtaith.

"Roedd 'na gymaint ohono, ac fe roedd hi'n biti mawr ei weld yn mynd i wastraff. Nawr, mae wedi mynd at achos da, ac fe gawn nhw ddefnyddio eu harian i brynu pethau eraill."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol