Caerwysg 2-0 Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Caerwysg 2-0 Casnewydd
Fe fanteisiodd Caerwysg ar y cyfle i geisio sicrhau eu lle yng ngemau ail gyfle yr Ail Adran, drwy guro Casnewydd bnawn Llun.
0-0 oedd hi am y rhan fwyaf o'r gêm, cyn gôl David Wheeler wedi 77 munud.
Roedd 'na halen yn y briw i Gasnewydd, wrth i Ismail Yakubu dderbyn cerdyn coch am ffowl wael ar Wheeler yn y cwrt cosbi ym munud olaf y gêm.
Fe sgoriodd Ryan Harley o'r smotyn i ddyblu mantais y tîm cartref.
Mae Casnewydd yn syrthio i'r seithfed safle wedi'r gêm.