Tynnu cerbyd o Afon Taf gyda chraen
- Published
Mae tryc wedi cael ei dynnu o Afon Taf yng Nghaerdydd gyda chraen.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod y cerbyd wedi cael ei weld yn y dŵr ger Parc Biwt am 05:00 ddydd Mawrth.
Bu plismyn a swyddogion tân yn archwilio'r cerbyd yn y dŵr a chanfod nad oedd teithwyr y tu mewn.
Cafodd ei dynnu o'r afon yn ddiweddarach ddydd Mawrth.
Yn y cyfamser, mae'r heddlu yn ymchwilio wedi i drych gael ei ddwyn o adran barciau Cyngor Caerdydd dros nos nos Lun.
Meddai llefarydd ar ran y cyngor: "Gallwn gadarnhau fod lladrad wedi bod ymm mhencadlys y parciau ar Ffordd Wedal yn oriau man bore Mawrth a chafodd cerbyd parc ei ddwyn.
"Cafodd Heddlu De Cymru wybod ac maen nhw'n apelio am wybodaeth."
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un a welodd y tryc yn cael ei yrru o'r parc i gysylltu â nhw.