Car yn taro dyn ym Mhen Llŷn
- Published
image copyrightGoogle
Mae dyn yn ei 20au wedi ei anafu'n ddifrifol ar ôl i gar ei daro ym Mhen Llŷn yn oriau cynnar dydd Llun.
Cafodd y dyn ei daro gan gar Rodius arian ger tafarn Y Bryncynan ym Morfa Nefyn.
Ychydig cyn 03:00 cafodd yr heddlu eu galw.
Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw dystion eu ffonio ar 101 a dyfynnu cyfeirnod S047839.