Plaid: 'Gostwng pris petrol ar gyfer ardaloedd gwledig'
- Cyhoeddwyd

Dylai tanwydd mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru fod 5c y litr yn rhatach, yn ôl Plaid Cymru.
Daw'r sylwadau wrth i'r blaid lansio maniffesto ffermio ar gyfer yr etholiad cyffredinol yn Llangefni ar Ynys Môn.
Bydd cynllun yr Undeb Ewropeaidd i leihau prisiau mewn 17 o ardaloedd gwledig yn Lloegr a'r Alban yn dod i rym yn ddiweddarach eleni.
Mae Llyr Gruffydd AC yn dweud y byddai Plaid Cymru yn cael gwared ar reolaeth anifeiliaid gafodd ei gyflwyno yn ystod cyfnod clwy'r traed a'r genau yn 2001, ac yn gwella gwasanaeth band-eang ledled Cymru.
Ar bwnc y gostyngiad mewn prisiau petrol, dywedodd Mr Gruffydd bod rhaid i bobl mewn ardaloedd gwledig wario darn mwy o'u hincwm ar danwydd na phobl mewn ardaloedd trefol.
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod eu plaid wedi diddymu cynllun trothwy trethiant tanwydd arfaethedig y blaid Lafur, gan ddweud fod gyrwyr bellach yn gwario 20c yn llai am bob litr ac yn arbed £44 y mis.
Yn ôl y llefarydd roedd yr arbedion hyn o ganlyniad i benderfyniadau anodd y Ceidwadwyr Cymreig mewn llywodraeth, gan greu twf yn yr economi, lleihau maint y ddyled, ac arbed arian i holl yrwyr wrth y pympiau petrol.
Dywedodd Mark Williams, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion, fod ei blaid wedi bod o gymorth i deuluoedd cefn gwlad yn barod, gan ddiddymu cynllun trothwy trethiant tanwydd y blaid Lafur. Ychwanegodd fod llenwi tanc gyda thanwydd yn £675 yn rhatach mewn blwyddyn nag o dan gynlluniau'r blaid Lafur.
Yn ôl Mr Williams, byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn brwydro i ostwng pris tanwydd yng nghefn gwlad Cymru fel y gallai teuluoedd yn yr ardaloedd hyn fanteisio hefyd. Ychwanegodd y byddai Plaid Cymru heb rym na dylanwad yn San Steffan gyda chyn lleied o aelodau seneddol ar ôl yr etholiad.