Arestio tri ar ôl i'r heddlu eu dilyn ar hyd yr A55

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae tri o bobl wedi eu harestio ar ôl cael eu dilyn gan yr heddlu ar hyd yr A55 fore Mawrth.

Cafodd y ddynes a dau ddyn eu harestio toc wedi 09:00 yn dilyn lladrad ym Mae Trearddur ar Ynys Môn.

Roedd y tri yn teithio i'r dwyrain mewn dau gar. Fe gafodd un o'r ceir ei stopio gan yr heddlu ar Allt Rhuallt ger Llanelwy a'r llall ger Treffynnon.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru y byddai'r tri'n cael eu holi maes o law.