Llafur yn gaddo 'dim treth ystafell wely'

  • Cyhoeddwyd
Rachel Reeves ym manc bwyd Y Barri
Disgrifiad o’r llun,
Rachel Reeves (dde) yn siarad â gwirfoddolwyr ym manc bwyd Y Barri

Mae gan y cyhoedd fis i gael gwared ar y 'dreth ystafell wely' trwy bleidleisio dros y Blaid Lafur, meddai llefarydd Gwaith a Phensiynau'r blaid, Rachel Reeves.

Yn siarad mewn banc bwyd yn Y Barri ym Mro Morgannwg, dywedodd hi mai dyma'r "peth cyntaf" y byddai hi yn ei wneud mewn pŵer.

Yn ôl Llafur, bydd y dreth yn effeithio ar 70,000 yn rhagor o deuluoedd yng Nghymru yn y pum mlynedd nesaf, ond dywedodd Plaid Cymru fod y blaid Lafur wedi cefnogi'r Ceidwadwyr wrth bleidleisio am £30bn o doriadau ychwanegol yn ddiweddar. Dywedodd y Ceidwadwyr fod eu newidiadau wedi dod a thegwch i'r drefn.

Mae teuluoedd sy'n cael eu heffeithio yn colli bron i £60 y mis ar gyfartaledd, meddai'r blaid Lafur.

Yn gynharach, dywedodd llefarydd y blaid dros Gymru, Owen Smith: "Cymru sydd wedi cael ei tharo waethaf gan y dreth greulon yma, gyda thrigolion Cymru bron 40% yn fwy tebygol o gael eu heffeithio na phobl sy'n byw rhywle arall yn y DU."

Ymateb y Ceidwadwyr

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr fod eu newidiadau wedi dod a thegwch i'r drefn gan ddod a phobl yn y sector rhentu cyhoeddus yn agosach at sefyllfa pobl oedd yn rhentu yn y sector preifat.

Ychwanegodd fod 13,000 o bobl yn byw mewn anheddau gorlawn yn y sector rhentu cyhoeddus, gyda chyfanswm o 38,000 yn dibynnu ar y sector, ac roedd 90,000 ar restr aros am dai.

Dywedodd fod y Ceidwadwyr wedi gwneud £7.9m ar gael i gynghorau Cymru drwy daliadau dewisol er mwyn cefnogi'r bobl fwyaf bregus, yn cynnwys £800,000 ar gael i bobl yng nghefn gwlad Cymru.

Roedd Llywodraeth y DU wedi clustnodi £20m ychwanegol ac wedi gofyn am gynnigion gan gynghorau - ond dim ond tri awdurdod lleol oedd wedi gwneud ceisiadau ac wedi derbyn arian, meddai.

Plaid Cymru

Wrth ymateb ar ran Plaid Cymru, dywedodd Hywel Williams, ymgeisydd y blaid yn Arfon, fod y dreth ystafell wely yn fesur 'gwarthus' sydd wedi achosi dioddefaint diangen i rhai o bobl fwyaf bregus cymdeithas. Ychwanegodd fod Plaid Cymru wedi pleidleisio yn erbyn y cynllun o'r cychwyn ac roedd y blaid wedi cynnig cynlluniau cadarnhaol i leihau effaith niweidiol y dreth.

Dywedodd nad oedd modd i Lafur allu hawlio o ddifrif eu bod ar ochr y mwyaf bregus mewn cymdeithas, gan ei bod wedi pleidleisio gyda'r Ceidwadwyr o blaid £30bn o doriadau ychwanegol ychydig wythnosau yn ôl. Byddai Plaid Cymru yn parhau i frwydro'r dreth ystafell wely ar bob achlysur, meddai.

Y Democratiaid Rhyddfrydol

Dywedodd Jenny Willott ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol fod y blaid yn San Steffan wedi bod yn ceisio diwygio'r dreth ar ystafelloedd gwely gan greu rheolau ychwanegol i denantiaid anabl oedd angen ystafelloedd ychwanegol, neu i unrhyw un oedd angen eiddo llai.

Ychwanegodd fod y blaid wedi sicrhau arian ychwanegol i awdurdodau lleol i geisio lleihau effaith y dreth, ac roedd cynghorau dan arweinyddiaeth y blaid Lafur yng Nghymru wedi methu a gwneud cynnigion am yr arian hwn. Roedd Llafur, meddai hi, wedi methu cyfle gwironeddol i helpu pobl yr oeddynt yn honni eu bod yn ei gynrychioli.

Y Blaid Werdd

Dywedodd Pippa Bartolotti bod "y Blaid Werdd erioed wedi bod yn erbyn y dreth 'stafell wely".

"Mewn gwirionedd mae'r Gwyrddion wedi bod yn y gymuned yn helpu'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan apeliadau'r Dreth 'stafell Wely."

Ychwanegodd: "Byddai unrhyw lywodraeth gydag unrhyw drugaredd yn cael gwared ar y Dreth 'stafell Wely yn syth. Mae'r Gwyrddion ar frig y rhestr."

UKIP

Dywedodd arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill, fod y dreth yn un fechan sydd yn arbed ychydig iawn o arian i'r trethdalwr ac yn enghraifft o'r wleidyddiaeth sydd yn creu rhwyg ac sydd yn cael ei weithredu gan yr 'elite' gwleidyddol.

Ychwanegodd fod y blaid Lafur yn gweithredu mân bolisiau'n unig gan nad ydynt yn fodlon mynd i'r afael â'r prif bwnc i bobl sydd yn gweithio - sef mewnfudo ar raddfa fawr heb ei reoli, meddai.

Dywedodd mai UKIP yw plaid y bobl sy'n gweithio, a'r blaid Lafur yw plaid yr 'elite' dinesig.