Procio'r pleidiau: UKIP

  • Cyhoeddwyd

Ar 7 Mai bydd pobl y DU yn bwrw eu pleidlais yn yr etholiad cyffredinol. Fel rhan o gyfres, mae Cymru Fyw yn holi bob un o'r prif bleidiau - a thro UKIP ydy'r tro hwn.

Beth yw prif addewid eich plaid yn yr etholiad?

Ein blaenoriaeth ers y cychwyn, a phob tro (hyd nes y bydd wedi'i wireddu wrth gwrs) yw rhoi refferendwm rhydd a theg i drigolion y DU ar aelodau o'r Undeb Ewropeaidd.

Pa bolisi, yn eich tyb chi, fydd yn fwya' manteisiol i bobl Cymru?

Bydd tynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd yn caniatáu i bobl y DU benderfynu ar eu cyfreithiau a'u dyfodol eu hunain.

Beth yw eich targed o ran seddi yng Nghymru?

Bydd gan bob un o'r etholwyr gyfle i bleidleisio dros UKIP gan ein bod yn sefyll ym mhob etholaeth yng Nghymru. Byddwn yn sicr yn ymgyrchu i ennill pob sedd, ond rydyn ni'n gwybod nad yw'r drefn 'cyntaf i'r felin' yn gweithio o'n plaid ni. Byddwn felly yn adolygu ein perfformiad ym mhob ardal ac yn targedu ein hadnoddau yn y mannau ble rydyn ni'n teimlo y gallwn gael fwy' o effaith.

Pa bolisïau sydd gennych chi i ddenu pobl ifanc i bleidleisio?

Sofraniaeth, heb unrhyw amheuaeth, yw'r peth pwysica' i bobl o bob oed. Os nad oes gennych reolaeth dros eich gwlad, eich cyfreithiau a'ch bywydau eich hunain, mae unrhyw beth rydych chi eisiau ei wneud ym mhob maes polisi bron, yn amherthnasol.

Oes 'na wahaniaeth yn eich ymgyrchu'r tro hwn, yn enwedig o ystyried datblygiadau technoleg/gwefannau cymdeithasol?

Rydyn ni'n ymgyrchu'n galetach nag erioed o'r blaen, gan wneud y defnydd gorau o bob platfform a thechnoleg newydd. Ond wrth gwrs does gennym ni ddim yr un cyllid â'r pleidiau sydd wedi'u sefydlu felly rydyn ni'n fwy cyfyngedig o ran beth allwn ni ei wneud. Ond o ystyried bod y Ceidwadwyr yn gwario £100,000 y mis ar hysbysebion Facebook, a ninnau'n gwario nesau peth i ddim, dydyn ni ddim yn gwneud yn rhy ddrwg o ran nifer y bobl sy'n nodi eu bod yn hoffi'n deunydd.

'Tasech chi'n gorfod dewis cymeriad chwedlonol/teledu/ffilm i gynrychioli'r blaid, pwy fyddech chi'n dewis a pham?

Doedd y blaid ddim eisiau ateb y cwestiwn hwn.