Ymddiried mewn gwleidyddion?
Steffan Messenger
Gohebydd BBC Cymru
- Cyhoeddwyd

Sut mae perswadio pobl ifanc i ymddiried mewn gwleidyddion? Dyna'r her sy'n wynebu cynrychiolwyr o bum plaid nos Fawrth yn y cynta' o gyfres o ddadleuon etholiadol sydd wedi'u trefnu gan BBC Newsbeat.
Mae BBC Cymru'n dilyn pump o Gymry ifanc fydd yn y gynulleidfa o 100 o bobl rhwng 18-24 oed yn Amgueddfa Dinas Leeds.
'Amheus'
Yn eu plith mae Aled Humphries, sy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth.
"Dwi'n amheus iawn o wleidyddion, er bod rhai yn amlwg yn angerddol iawn dros yr hyn neu'r llall," meddai.
"Ond dwi'n teimlo eu bod nhw ond yn taclo'r pynciau fydd yn edrych yn dda yn y papurau."
44% o bobl rhwng 18-24 oed wnaeth fwrw pleidlais yn yr etholiad cyffredinol diwetha' yn 2010 o'i gymharu â 76% o bobl dros 65 mlwydd oed.
Yn ôl Robyn Holley, o Gwmbrân, fydd hefyd yn y gynulleidfa yn Leeds: "Ar hyn o bryd fydda' i ddim yn pleidleisio - dyw gwleidyddion ddim yn gwneud dim i helpu ieuenctid y wlad."
Yn wynebu cwestiynau'r bobl ifanc yn ystod y ddadl fydd Sam Gyimah (Ceidwadwyr), Sadiq Khan (Llafur), Sal Brinton (Democratiaid Rhyddfrydol), Mhairi Black (SNP) a Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru).
Fe fydd modd gwylio'r ddadl yn fyw ar sianel newyddion y BBC neu wrando ar Radio 1 a 1Xtra am 21:00 nos Fawrth, 7 Ebrill. Fe fydd y rhaglen yn cael ei hailddarlledu am 23:20 ar BBC2.