Dedfrydu 26 aelod o gang cyffuriau o Gaernarfon
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd gang o 26 oedd yn cyflenwi cyffuriau yng ngogledd Cymru wedi cael ei garcharu am 12 mlynedd.
Dywedodd y barnwr fod Gavin Thorman, 36 oed o Gaernarfon, yn rheoli cynllwyn oedd wedi gwneud niwed aruthrol i Gaernarfon.
Roedd y gang yn cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener.
Ymgyrch Yonside, a barodd am bron pum mlynedd, oedd un o ymchwiliadau mwyaf Heddlu Gogledd Cymru.
Clywodd y barnwr fod Thorman yn defnyddio'r bygythiad o drais i arwain rhwydwaith yn y dref, a bod rhywun arall o'r criw yn casglu'r arian cyffuriau ar ei ran tra oedd Thorman yn y carchar.
Brolio yn Gymraeg
Fe gafwyd trobwynt yn ymgyrch yr heddlu pan froliodd yn Gymraeg am "wneud miliynau y tro yma" tra oedd wedi ei garcharu a dweud na fyddai unrhyw un yn gallu deall beth oedden nhw'n dweud.
Fe ddechreuodd yr ymgyrch ar ôl i werth £70,000 o gocên gael ei ddarganfod yng Nghaernarfon yn 2009, a gwerth £30,000 arall yn 2012.
Fe wnaeth y diffynyddion, yn bennaf o Gaernarfon neu Fanceinion, i gyd bledio'n euog i yhuddiadau'n gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau.
Clywodd y llys fod Thorman yn trefnu cyflenwi'r cyffuriau ar ôl eu derbyn gan gyflenwyr yn Lerpwl a Manceinion.
Roedd Thorman yn berchen ar 48 ffôn symudol.
Aelodau'r gang
Gavin Thorman, 36 oed o Gaernarfon. Plediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi cocên a chanabis - carchar am 12 mlynedd;
James Dylan Davies, 41, o Gaernarfon. Plediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi cocên a chanabis - carchar am wyth mlynedd a chwe mis;
Richard Broadley, 34, yn wreiddiol o Stockport. Plediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi cocên a chanabis - carchar am chwe blynedd ac wyth mis;
Adam Roberts, 33 o Gaernarfon. Plediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi cocên a chanabis - carchar am wyth mlynedd;
Christopher Taylor, 29, o Gaernarfon. Plediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi cocên a chanabis - carchar am wyth mlynedd a thri mis;
Dylan Hughes, 30, o Gaernarfon. Plediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi cocên a chanabis - carchar am naw mlynedd;
Gavin Hughes, 29, o Gaernarfon. Plediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi cocên - carchar am chwe blynedd ac wyth mis;
Yasmin Owen, 25, o Gaernarfon. Plediodd yn euog i ailgylchu arian - carchar am 12 mis;
Jonathan White, 32, o Gaernarfon. Cafwyd yn euog o gynllwynio i gyflenwi cocên a phlediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi canabis a chael dryll ffug mewn man cyhoeddus - carchar am 11 mlynedd;
Martin Taylor, 26, o Gaernarfon. Plediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi canabis - carchar am 40 mis;
Julian Williams, 40, o Gaernarfon. Plediodd yn euog o adael i'w gartref gael ei ddefnyddio i gyflenwi cocên a chanabis - carchar am 40 wythnos;
Dawn Williams, 47, o Gaernarfon. Plediodd yn euog i adael i'w chartref gael ei ddefnyddio i gyflenwi cocên a chanabis - carchar am 14 mis;
Paul Hughes, 36, o Gaernarfon. Plediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi cocên a chanabis - carchar am bedair blynedd ac wyth mis;
Martin Shaw, 32, o Gaernarfon. Plediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi canabis - carchar am 20 mis;
Ryan Williams, 34, o Gaernarfon. Plediodd yn euog i ailgylchu arian a gwneud cytundeb ynglŷn ag eiddo troseddol - carchar am dair blynedd a chwe mis;
Gethin Ellis, 23, o Gaernarfon. Plediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi cocên a chanabis - carchar am bedair blynedd;
Rizuan Hussain, 28, o Rochdale. Cafwyd yn euog o gynllwynio i gyflenwi cocên a chanabis - carchar am chwe blynedd;
James Whitworth, 30, o Fanceinion. Cafwyd yn euog o gynllwynio i gyflenwi cocên a phlediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi canabis - carchar am 12 mlynedd;
Anthony Ferguson, 20, o Fanceinion. Plediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi cocên a chanabis - carchar am chwe blynedd ac wyth mis;
Gregory Appleby, 20, o Fanceinion. Plediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi canabis - carchar am ddwy flynedd
Jake Crooks, 23, o Fanceinion. Plediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi canabis - carchar am 16 mis;
Patrick Tynan, 23, o Fanceinion. Plediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi cocên a chanabis - carchar am bedair blynedd;
Anthony Hunt, 30, o Fanceinion. Cafwyd yn euog o gynllwynio i gyflenwi canabis - carchar am 16 mis;
Ian Ogden, 26, o Fanceinion. Plediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi canabis - carchar am 16 mis;
Samuel Hughes, 28, o Fanceinion. Plediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi canabis - carchar am 18 mis;
Nicole Herbert, 29, o Gaernarfon. Plediodd yn euog i gyhuddiad o ailgylchu arian - dedfryd o 10 mis wedi ei ohirio am 18 mis.
'Niwed aruthrol'
Dywedodd y Barnwr Merfyn Hughes: "Oherwydd ei strwythur a'i faint ... roedd yn gynllwyn mawr a soffistigedig.
"Mae'r niwed i gymuned gogledd Cymru, a Chaernarfon yn enwedig, yn aruthrol. Mae'n un o'r cynllwynion mwyaf o'i fath yng ngogledd Cymru yn y 15 mlynedd diwethaf."
Clywodd y llys bod 2.4 cilo o gocên gwerth £101,799 a 5.8 cilo o ganabis gwerth £97,770 wedi cael eu darganfod gan yr heddlu yn ystod Ymgyrch Yonside.
Dywedodd y barnwr: "Rwy'n gwbl fodlon bod cyfanswm maint y ddau gyffur yn llawer mwy na'r swm yna."
Dywedodd y barnwr ei fod yn siŵr y byddai mwy o gynllwynwyr yn cael eu darganfod ond canmolodd y plismyn oedd yn arwain yr ymchwiliad.
'Gang treisgar'
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Iestyn Davies: "Roedd hwn yn ymchwiliad hirdymor oedd yn para mwy na phedair blynedd ac yn ystod y cyfnod yna mi wnaethon ni hel tystiolaeth gref yn erbyn y tîm yma, ac fel 'dach chi wedi gweld mae'r dystiolaeth wedi ei chlywed yn y llys ac mae 'na 26 o droseddwyr yn euog.
"Mewn unrhyw ymchwiliad o'r natur yma mae'n bwysig ein bod ni'n defnyddio pob math o dactegau, un o'r tactegau oedd gwylio ac mi wnaethon ni ddilyn y tîm nid yn unig yn y gogledd ond i ochrau Glannau Mersi a Manceinion hefyd.
"Mi oedden nhw'n gang treisgar yn bendant, lot o bobl, yn enwedig yng Ngwynedd a Môn, yn ofni'r gang oherwydd eu trais ac wedyn mi oedd risg yna.
"Dyna pam wnaethon ni gymaint o fuddsoddiad i 'neud yn siŵr bod ni'n gallu hel tystiolaeth a'u carcharu nhw."