Plaid Cymru yn galw am ddatganoli cynlluniau ynni

  • Cyhoeddwyd
Ynni

Mae Plaid Cymru wedi galw am ddatganoli grymoedd dros gynlluniau ynni mawr i lywodraeth Cymru.

Dywed y blaid y byddai hyn yn galluogi Cymru i gynyddu canran y wlad o ffynhonellau ynni adnewyddol, gan "ganolbwyntio ar ffynhonellau ynni llanw ac hydro."

Yng Nghytundeb Dewi Sant yn gynharach eleni, fe ymrwymodd y Ceidwadwyr, Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol i drosglwyddo grymoedd i Fae Caerdydd am gynlluniau ynni hyd at 350 megawat.

Dywed y Ceidwadwyr eu bod wedi dod a chynlluniau ynni mawr i Gymru ac ni ddylai neb wrando ar y cenedlaetholwyr Cymreig wrth edrych ar ynni.

Yn ôl Hywel Williams, o Blaid Cymru, mae Cymru yn wlad ag iddi gyfoeth naturiol aruthrol, ond fod San Steffan wedi manteisio ar allforio'r adnoddau naturiol hyn yn rhy hir.

Mae Plaid Cymru am weld rheolaeth dros yr adnoddau naturiol hyn ac am gynlluniau ynni sylweddol yn cael eu datganoli o Lundain i Gynulliad Cymru fel y gall pobl Cymru fanteisio arnynt, meddai Mr Williams.

Drwy wneud hyn byddai Cymru yn gallu cynyddu capasiti ynni adnewyddol y wlad, gan amddiffyn cymunedau rhag polisïau niweidiol San Steffan fel ffracio a gor-ddibyniaeth ar danwydd ffosil, ychwanegodd.

Ymateb

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod ganddyn nhw hanes o ddod a chynlluniau ynni i Gymru, fel Wylfa B ar Ynys Môn, neu gyhoeddiad y gyllideb ar lagwnau i Fae Abertawe.

Yn ôl Llafur, eu blaenoriaeth yw "diwygio'r marchnadoedd ynni" a "chadw prisiau'n isel" i gwsmeriaid.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud eu bod wedi "arwain y ddadl" dros ynni adnewyddol ac wedi helpu i sicrhau "grymoedd pwysig dros ynni" i Gymru.

Mae UKIP wedi cael cais i ymateb.

Ffynhonnell y llun, Tidal Lagoon Power
Disgrifiad o’r llun,
Y lagwn arfaethedig ym Mae Abertawe fyddai'r cynta' o'i fath yn y byd