Cytundeb cwmni gofal cartref ym Mhowys yn dod i ben
- Cyhoeddwyd

Mae BBC Cymru yn deall fod Cyngor Powys wedi dod a chytundeb gyda chwmni oedd yn un o brif gyflenwyr gofal cartref yr awdurdod yn ne'r sir i ben.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot hefyd wedi dod â'u cytundeb gyda'r un cwmni, Alpha Home Care, a'i chwaer-gwmni, Bryce Care, i ben.
Mae'n debyg y bydd Cyngor Abertawe hefyd yn dilyn yr un trywydd.
Mae Alpha Home Care yn cynnig 3,500 o oriau gofal i 266 o bobl ym Mhowys. Yng Nghastell-nedd Port Talbot roedd y ddau gwmni yn darparu dros 1,000 o oriau o ofal yr wythnos i 78 o ddefnyddwyr y gwasanaeth.
Adolygiad
Cafodd y cwmni ei arolygu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ym mis Rhagfyr 2014, gydag arolwg arall ym mis Chwefror eleni. Roedd y ddau arolwg yn feirniadol, ond roedd y diweddaraf yn ddamniol.
Dywedodd adroddiad yr AGGCC fod rheolaethau gofal wedi eu torri ar chwe achlysur, gan ychwanegu: "O achos methu galwadau, roedd rhai pobl oedd yn defnyddio'r gwasanaeth heb dderbyn eu moddion, prydau bwyd a gofal personol bob tro, ac felly nid oeddynt wedi eu gwarchod rhag esgeulustod."
Ym mis Ebrill 2014, roedd Alpha Home Care wedi derbyn cytundeb gan Gyngor Powys i gynnig gofal cartref i bobl fregus yn y sir, ar ôl i'r cyngor gwtogi nifer y cyflenwyr o tua 30 o gwmniau i bedwar.
Ar y pryd dywedodd y cyngor y byddai'r drefn newydd yn fwy syml, yn arbed arian ac yn cyflenwi parhad yng ngofal y defnyddwyr.
Fis Medi'r llynedd daeth cytundeb cwmni arall oedd yn darparu gofal yng ngogledd y sir - cwmni Reach - i ben, a hynny cyn i adroddiad beirniadol am ofal y cwmni gael ei gyhoeddi.
Yn yr achos hwnnw, roedd rhai defnyddwyr wedi eu cludo i'r ysbyty, gydag un defnyddiwr wedi ei adael ar lawr am fod gofalwr wedi methu ymweliad cartref.
Ymddiheurodd Reach ar y pryd.
Pryderon arianol
Er bod gwasanaeth gofal Alpha Home Care yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot wedi derbyn canmoliaeth gan yr AGGCC, rydym yn deall fod pryderon am sefyllfa arianol y cwmni yn dilyn diwedd ei gytundeb gyda Chyngor Powys yn golygu fod Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi gwneud yr un penderfyniad.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys:
"Mae uwch-reolwyr gofal yn gweithio'n agos yn barod gyda Alpha Home Care i drosglwyddo staff i'r cyngor a darparwyr eraill er mwyn sicrhau fod gwasanaeth digyfnewid yn cael ei gynnig i'r defnyddwyr."
Dywedodd Cyngor Abertawe nad oedd wedi dod â'i gytundeb gyda'r cwmni i ben eto, ac fel Powys a Chastell-nedd Port Talbot, lles a diogelwch y defnyddwyr oedd y flaenoriaeth.
Dewisodd Alpha Home Care i beidio â gwneud unrhyw sylw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2014