Wyth o griwiau'n diffodd tân ger Dolgellau
- Cyhoeddwyd
Mae criwiau nos Fawrth wedi diffodd tân eithin 85 erw ger Dolgellau.
Roedd y tân o dan reolaeth erbyn 20:00.
Cyrhaeddodd y diffoddwyr o Ddolgellau, Blaenau Ffestiniog, Y Bermo, Tywyn, Y Bala a Harlech.
Roedd y tân ar Fynydd Tal y Waen a chafodd diffoddwyr eu galw i Islawr-Dref ychydig wedi 13:30.
Ar y cychwyn roedd pedwar o griwiau ar y safle, gan gynnwys uned arbennig o'r Rhyl, ac ar un adeg roedd wyth o griwiau yno.
Chafodd neb ei anafu.
71 o danau gwair
Nos Fawrth roedd tanau gwair yn Nhanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog a Bryncir ger Porthmadog.
Roedd tanau gwair ddydd Mawrth yn Y Rhondda, Maesteg, Rhymni, Cwmbrân a Mynydd Pencarreg yn Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd Gwasanaeth Tân De Cymru eu bod wedi eu galw i 71 o danau gwair bwriadol yn ystod Sul a Llun y Pasg.
Mae Jennie Griffiths, un o'r penaethiaid, wedi dweud bod "mwy na 500% o gynnydd" yn nhanau gwair bwriadol yr ardal yr wythnos hon o'i chymharu â'r un wythnos y llynedd.