Swyddi: Mwy o drafod ddydd Iau
- Published
Mae undeb Unite, sy wedi cwrdd â rheolwyr ffatri brosesu cig Two Sisters ar Ynys Môn, wedi dweud y bydd mwy o drafodaethau fore Iau.
Brynhawn Mawrth fe awgrymodd yr undeb eu cynigion nhw.
Mi fydd cyfnod o ymgynghori am ddyfodol swyddi yn Llangefni yn dod i ben yfory.
Roedd pryderon y byddai dileu shifft yn arwain at golli 300 o swyddi.
Mae 800, gan gynnwys gweithwyr asiantaeth, yn y ffatri.