Cyhoeddi enwau cwpl fu farw ar yr A470 ger Llanrwst
- Published
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi fod ail berson wedi marw'n dilyn gwrthdrawiad ar yr A470 rhwng Betws-y-coed a Llanrwst ddydd Sul y Pasg.
Bu farw Joanne Winder yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, brynhawn dydd Mawrth.
Roedd hi'n bartner i Stephen Probert, fu farw yn y fan a'r lle wedi i'w beic modur nhw daro yn erbyn BMW lliw gwyn tua 13:20 ddydd Sul, rhyw filltir i'r de o Fetws-y-coed, ar y ffordd i Lanrwst.
Roedd y ddau yn dod o ardal Bae Colwyn.
Mae teuluoedd y ddau yn cael cefnogaeth gan swyddog cyswllt yr heddlu.
Yn y cyfamser, mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i achos y gwrthdrawiad rhwng y beic modur a char BMW gwyn, ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio nhw ar 101.
Mae'r crwner wedi cael gwybod am y marwolaethau.
Straeon perthnasol
- Published
- 7 Ebrill 2015
- Published
- 5 Ebrill 2015