Dedfrydu dyn wedi twyll eBay werth £2,000
- Cyhoeddwyd

Mae dyn ddefnyddiodd wefan eBay i dwyllo pobl wedi ymddangos yn Llys y Goron Casnewydd i gael ei ddedfrydu.
Fe wnaeth Phillip Percival Shortman, 27, o Abersychan ger Pont-y-pwl, gyfaddef defnyddio eBay a safle arall i werthu ffôn symudol nad oedd yn bodoli a darnau ceir.
Clywodd y llys ei fod wedi ei gael yn euog o 77 o droseddau yn y gorffennol, llawer yn ymwneud ag eBay.
Cafodd ei ddal ar ôl iddo fethu a gyrru eitem i swyddog heddlu o Essex oedd wedi ei brynu ar y we.
Dywedodd yr erlyniad bod Shortman wedi cyflawni gweithredoedd o dwyll gwerth £2,065, a chlywodd y llys ei fod wedi dod â'r arian yna i'r llys ddydd Mercher.
Yn ôl yr amddiffyniad, roedd Shortman yn troseddu oherwydd "anaeddfedrwydd a diffyg dealltwriaeth o arian".
Fe wnaeth y barnwr, John Jenkins QC, ohirio'r dedfrydu tan ddydd Gwener.