Dysgu Cymraeg gyda Radio Cymru
- Cyhoeddwyd

Yn ddiweddar ar Cymru Fyw, bu Betsan Powys, Golygydd BBC Radio Cymru yn trafod yr her sy'n wynebu'r orsaf ac yn bwrw golwg yn ôl ar flwyddyn ers y newidiadau i'r amserlen.
Ond beth am farn y gwrandawyr? Mae Christine Parry o Aberffraw, Ynys Môn, yn dysgu Cymraeg ac yn credu bod Radio Cymru yn adnodd pwysig wrth iddi hi geisio dod yn fwy rhugl. Dyma ei sylwadau hi am yr orsaf:
Gwarchod yr iaith
Fe hoffwn i rannu fy marn am wasanaeth Radio Cymru. Fel un sy'n dysgu'r Gymraeg, rydw i yn wrandawraig ffyddlon ac yn gwrando ar y radio pan rydw i yn gallu.
Rydw i yn mynd i wersi Cymraeg ger fy nghartref ar Ynys Môn, ac rydw i yn credu ei bod hi'n bwysig i ddysgu'r iaith er mwyn gwarchod ei thraddodiadau hyfryd.
Yn ein cyfarfodydd wythnosol ry'n ni yn gwahodd pobl leol sy'n rhugl yn y Gymraeg i ddod i siarad gyda ni dros goffi. Mae'n rhaid i mi gyfaddef mae hi wedi bod yn anodd denu'r siaradwyr rhugl i ddod atom ni.
Boreau'n plesio
Mae Radio Cymru yn ein helpu i wrando ar yr iaith. Weithiau, rydw i yn cael trafferth deall yr iaith a'r geiriau sy'n cael eu defnyddio, er enghraifft, Dei Tomos sydd â Chymraeg llawer mwy graenus na fy un i.
Rydw i yn mwynhau 'Bore Cothi', ond rydw i'n ffan mawr o Shân Cothi beth bynnag. Mae cyfweliadau Beti George ar 'Beti a'i Phobl' yn werthfawr iawn hefyd pan rydw i yn gallu eu deall.
Ond dydw i ddim yn mwynhau hwyl y criw bywiog sydd wrthi ar b'nawniau Gwener! Dyna pryd y mae'n rhaid i mi droi at orsaf arall!
Chwarae bingo
Dydw i ddim yn teimlo fy mod i yn clywed llawer o ddrama ar Radio Cymru, ond mi wnes i wrando ar gyfres am chwaraewyr bingo - 'Becca Bingo' - yn ystod un o fy nosbarthiadau Cymraeg.
Roedd pawb yn dweud pa mor ddoniol a hawdd i'w deall oedd y gyfres, ac roedd yn rhaid i mi gytuno. Gwrandewais i ar y gyfres gyfan ar yr iPlayer a chael pleser mawr, fel y gwnaeth llawer o'm ffrindiau.
Rydw i'n cymryd bod Cymraeg sgyrsiol, llafar, fel hyn yn haws i'w deall, ac mi fydda i hefyd yn mwynhau gêm o bingo bob hyn a hyn.
Mi wnes i ddal 'Blod', drama arall ddydd Gwener diwetha' hefyd, ond wnes i ddim gwrando i'r diwedd mae'n ddrwg gen i ddweud.
'Dysgwyr i warchod yr orsaf'
Rydw i yn mwynhau'r gerddoriaeth glasurol yn y boreau sy'n arwain yn neis at y newyddion. Ond mae'n rhaid i mi ddweud mai Radio 4 sy'n ennill y dydd ar yr adeg honno.
Roeddwn i yn drist i glywed bod y ffigyrau gwrando wedi syrthio. Roedd yn dipyn o syrpreis a dweud y gwir, ond rydw i yn gobeithio y gallwn ni fel dysgwyr yr iaith helpu i warchod dyfodol yr orsaf.
Byddai siarad yn arafach a mwy sgyrsiol yn ein helpu. Diolch yn fawr!
Beth yw eich barn chi. Cytuno efo Christine?