Honiad o ladrad mewn capel

  • Cyhoeddwyd
Capel

Mae honiad o ladrad mewn cysylltiad ag arian capel hanesyddol yn Sir Gaerfyrddin wedi cael ei adrodd i'r heddlu.

Mae'r honiad yn ymwneud â Chapel Bedyddwyr Adulam yn Felinfoel ger Llanelli.

Yn ôl adroddiad ym mhapur lleol y Llanelli Star mae £50,000 o arian y capel ar goll.

Dywedodd gweinidog y capel, y Parchedig Alan Jones wrth y papur: "Mae'r aelodau'n ymwybodol, ac mae'r mater yn cael ei ddelio ag o yn y modd priodol. Rydym yn hyderus o ddelio gyda'r mater".

Wrth siarad gyda BBC Cymru nid oedd y Parchedig Jones yn barod i ychwanegu mwy at ei ddatganiad i'r papur.

Nid oes neb wedi ei arestio ac mae BBC Cymru yn deall nad oes ymchwiliad troseddol yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.

Heddlu

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys: "Gall Heddlu Dyfed Powys gadarnhau ei fod wedi derbyn gwybodaeth mewn cysylltiad â lladrad yng Nghapel Adulam, Felinfoel. Rydym yn pwyso a mesur y wybodaeth ar hyn o bryd".

Cafodd Capel Adulam ei sefydlu yn 1840, er bod y Bedyddwyr wedi addoli ar y safle ers 1709.

Mae gwaith adnewyddu ar y capel bron a'i gwblhau.

Yn 2009 fe gyhoeddodd CADW fod y corff yn cynnig grant o £140,000 tuag at y gwaith o adnewyddu festri'r capel.

Fe gyfeiriodd Undeb Bedyddwyr Cymru ymholiad BBC Cymru at y Parchedig Jones.