Taflu golau ar hanes milwr 'tanddaearol' o Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae gwaith ymchwil newydd wedi datgelu manylion am fywyd milwr o Gymru oedd ar flaen y gâd wrth ddatblygu brwydro tanddaearol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
100 mlynedd yn ôl roedd y Capten Arthur Edwards a'i ddynion, oedd yn cael eu disgrifio fel 'twnelwyr', wedi llwyddo i danio ffrwydrad tanddaearol tu ôl i linellau'r Almaenwyr ar y ffin rhwng Ffrainc a Gwlad Belg.
Derbyniodd Edwards, o Flaenafon, fedal y Groes Filwrol yn ddiweddarach am ei waith.
Yn ôl yr hanesydd Mark Kahn, sydd wedi cynnal gwaith ymchwil i gefndir Capten Edwards, roedd yn anarferol gweld cofnodion meddygol a dyddiaduron gan unigolyn o'r cyfnod.
Dechrau'r rhyfel
Yn 1914 roedd Arthur Edwards yn beirianydd glofaol i Gwmni Dur a Glo Blaenafon, ac yn aelod o ail gatrawd Sir Fynwy.
Cafodd waith gan y fyddin o reoli criw o lowyr oedd wedi eu casglu at ei gilydd i ymdrin â'r gwaith o ddatblygu tactegau ymladd tanddaearol.
Wedi misoedd o dyllu, ar 9 Ebrill 1915, fe lwyddodd y dynion i ffrwydro adeilad oedd yn cael ei ddefnyddio gan yr Almaenwyr tu ôl i linellau'r gelyn.
Mewn cyrchoedd diweddarach fe ddisgrifiodd sut y bu iddo dyllu drwy wal twnel a bu'n rhaid iddyn nhw ymladd wyneb yn wyneb gyda'r gelyn.
Mae'r hanesydd Mark Kahn yn credu fod dyddiaduron a chofnodion meddygol Arthur Edwards yn taflu goleuni ar hanes brwydro tanddaearol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
'Hanes cynnar' cloddio
"Mae hwn yn rhan o hanes cynnar cloddio lle nad oes llwyth o wybodaeth ar gael, mae'n stori ryfeddol ac yn unigryw mewn nifer o ffyrdd", meddai.
"Roedd ar flaen y gâd, yn brwydro ei ffordd drwy'r rhyfel ac yn cael ei anafu ddwywaith ond yn goroesi - mae'n un aeth drwy'r rhyfel, gan wneud llawer, a goroesi.
"Mewn llawer o ffyrdd mae ei brofiad yn feicrocosm o'r profiad o gloddio twnelau i lawer o filwyr yn ystod y rhyfel.
Fe ddychwelodd i Ffrainc yn 1917, ond fe gafodd ei anafu eto ym mis Mehefin y flwyddyn honno.
Yn 1919 fe anfonodd y Swyddfa Ryfel nifer o lythyrau yn gofyn iddo ad-dalu cyflog o ryw £9, ond ni atebodd y llythyrau ac fe fethodd a chyrraedd gwersyll milwrol yn 1920.
Dyma'r cofnod olaf sydd ohono yn archifau Kew yn Llundain.