Dim trwydded i glwb pêl-droed Bangor
- Cyhoeddwyd

Mae posibilrwydd na fydd clwb pêl-droed Dinas Bangor yn cael cystadlu yn Uwchgynghrair Cymru y tymor nesaf.
Ddydd Mercher fe gyhoeddodd yr Uwchgynghrair pa glybiau oedd wedi llwyddo gyda cheisiadau am drwydded ddomestig - trwydded y mae'n rhaid ei chael er mwyn cystadlu.
Mae Bangor yn un o'r ychydig glybiau sydd wedi cystadlu ymhob tymor ers sefydlu Uwchgynghrair Cymru yn 1992.
Nos Fercher, 8 Ebrill, roedd y gêm rhwng Merched Cymru a Merched Slofacia yn cael ei chynnal yn eu stadiwm.
Mae stadiwm Bangor yn cael ei ystyried yn un o'r goreuon yn yr Uwchgynghrair, ac mae gemau rhyngwladol yn cael eu cynnal yno'n gyson.
Daeth cadarnhad bod Llandudno wedi llwyddo ac y byddan nhw felly yn cymryd lle Prestatyn y tymor nesaf.
Ond mae'r datganiad hefyd yn dweud: "Yn anffodus, cadarnhawyd na fydd Prestatyn yn cystadlu yn y Cynghrair Cenedlaethol y tymor nesaf o ganlyniad i'w safle yn y tabl a'r ffaith na lwyddon nhw i sicrhau'r drwydded.
"Bangor oedd yr unig glwb arall o'r Cynghrair fethodd sicrhau'r Drwydded Ddomestig. Bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y Corff Apelio Trwyddedu Clybiau ar y 24ain o Ebrill 2015."
Nid oedd y datganiad y rhoi rheswm am wrthod cais Bangor, ond dywedodd ysgrifennydd y clwb, Gwynfor Jones, wrth BBC Cymru Fyw eu bod wedi cael gwybod mai'r rheswm oedd bod gan y clwb fil treth oedd heb ei dalu.
Mae rhesymau ariannol hefyd yn cael eu hystyried wrth ganiatáu trwyddedau domestig.
Dywedodd: "Rydym yn gobeithio dod i gytundeb gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi dros y deg diwrnod nesaf, ac yn gobeithio felly y cawn ni'r drwydded ar apêl.
"Mae'r clwb yn siomedig iawn gyda'r penderfyniad, ac fe fyddwn ni'n gweithio'n galed i sicrhau na fydd y clwb fyth yn y sefyllfa yma eto."