Pêl-droed: Cymru'n cyrraedd eu safle ucha' ar restr Fifa
- Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi cyrraedd eu safle ucha' erioed ar restr detholion FIFA, gan godi 15 safle i rif 22.
Carfan Chris Coleman welodd y symudiad mwya' yn rhestr mis Ebrill, gyda 153 o bwyntiau, ar ôl iddyn nhw guro Israel o 3-0 yn Haifa yn eu gêm ragbrofol yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2016.
Maen nhw bellach wedi curo record carfan Terry Yorath yn 1993, a lwyddodd i gyrraedd y 27ain safle.
O ran gwledydd eraill Prydain, mae Lloegr wedi dringo i'r 14eg safle ar ôl iddyn nhw guro Lithwania a chael gêm gyfartal yn erbyn Yr Eidal fis diwetha', tra bod Yr Alban wedi codi 10 safle i rif 29, a Gogledd Iwerddon un safle'n uwch ar 42. Mae Gweriniaeth Iwerddon wedi dringo pedwar safle i rif 62.
Yr Almaen sy'n parhau ar y blaen i Ariannin ar y brig, ond mae Gwlad Belg - sydd yn yr un grŵp a Chymru yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2016 - wedi codi chwe safle, gan gyrraedd y tri ucha' am y tro cynta'.
Dywedodd amddiffynnwr Cymru, Chris Gunter: "Mae'n wych ac os mai dyma'r safle ucha' erioed yna mae'n dangos ein bod yn gwneud rhywbeth yn iawn.
"Mi ddywedodd Chris Coleman yr wythnos ddiwetha' ein bod wedi colli un gêm mewn 18 mis felly mae'n debyg ein bod ni'n haeddu hyn a 'da ni ar rediad da.
"Ond er ein bod yn uchel yn y tabl, 'da ni eisiau sicrhau, pan ddaw mis Hydref nesa', ein bod ni lle 'da ni eisiau bod [sef dod drwy Grŵp B]."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2015
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2014
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd9 Medi 2014