Carwyn Jones: 'Isafswm cyllideb Cymru heb newid trefn Yr Alban'
- Cyhoeddwyd

Dylai isafswm cyllideb Llywodraeth Cymru gael ei warantu heb orfod diwygio'r ffordd mae'r Alban yn cael ei chyllido, yn ôl Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
Mae'r Trysorlys yn defnyddio Fformiwla Barnett, gafodd ei dyfeisio yn y 1970au, i rannu arian rhwng gwledydd wedi eu datganoli.
Ond mae'r system, sydd wedi ei seilio ar boblogaeth, yn ddadleuol gan ei bod yn golygu lefel uwch o wariant cyhoeddus i'r Alban.
Mae gwleidyddion yn yr Alban wedi addo cadw'r fformiwla er bod galw am newid yng Nghymru.
'Heddiw, 'fory ac am byth'
Mewn dadl ar y teledu nos Fercher dywedodd Arweinydd Plaid Lafur yr Alban, Jim Murphy, y byddai'n cadw fformiwla Barnett "heddiw, 'fory ac am byth, a dyna rydych chi'n ei gael gyda Llafur".
Ond yn Nolgarrog yng Ngwynedd dywedodd Mr Jones: "Rydyn ni eisiau isafswm Barnett - heb fynd i fanylion mae'n cynnig yr hyn rydyn ni eisiau, sef gwneud yn siŵr bod tan-gyllido Cymru yn dod i ben.
"Gallwch chi sicrhau hynny heb orfod diwygio fformiwla Barnett yn llwyr felly mae'n bosib cael y ddau beth.
"Mae gen i ddiddordeb yn yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru - mae'n bwysig bod gyda ni'r ddyfais yma o'r enw isafswm Barnett sy'n delio gyda than-gyllido yn y dyfodol, ac mae hynny'n datrys y broblem o safbwynt Cymru."
Mae'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol o blaid isafswm cyllideb, ond maen nhw'n dweud y byddai'r union swm yn cael ei osod yn y dyfodol.
Mae'r glymblaid yn dweud eu bod yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gynnal refferendwm ar ddatganoli treth incwm.