Procio'r pleidiau: Ceidwadwyr

  • Cyhoeddwyd

Ar 7 Mai bydd pobl y DU yn bwrw eu pleidlais yn yr etholiad cyffredinol. Fel rhan o gyfres, mae Cymru Fyw yn holi bob un o'r prif bleidiau - a thro'r Ceidwadwyr ydy'r tro hwn.

Beth yw prif addewid eich plaid yn yr etholiad?

Yr economi. Heb economi gref a thwf, does dim modd amddiffyn a datblygu gwasanaethau eraill. Diolch i'n penderfyniad i leihau'r diffyg, rydym wedi llwyddo i greu 52,000 o swyddi newydd yng Nghymru, torri trethi ar gyfer 1.1 miliwn a thynnu 160,000 allan o drethi'n llwyr.

Pa bolisi, yn eich tyb chi, fydd yn fwya' manteisiol i bobl Cymru?

Hybu economi Cymru - mae'r canlyniadau'n dangos hynny. Dechrau mwy o fusnesau, mwy o bobl mewn gwaith a mwy o fuddsoddiad i mewn i Gymru diolch i hyder ymhlith busnesau, twf economaidd a buddsoddiad mewn isadeiledd.

Beth yw eich targed o ran seddi yng Nghymru?

Rydym yn brwydro am seddi ar draws Cymru ar sail record gadarn.

Pa bolisïau sydd gennych chi i ddenu pobl ifanc i bleidleisio?

Rydym yn cael mwy o bobl ifanc ar brentisiaethau, yn helpu pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer cystadlu'n fyd-eang a'u helpu i gael mynediad i'r farchnad dai trwy ein cynllun cymorth i brynu a'r ISA newydd ar gyfer rhai sy'n prynu am y tro cynta'.

Oes 'na wahaniaeth yn eich ymgyrchu'r tro hwn, yn enwedig o ystyried datblygiadau technoleg/gwefannau cymdeithasol?

Bydd y cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan heb os yn yr ymgyrch yma. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig ar Twitter, Facebook a YouTube yn cysylltu gyda phleidleiswyr bob awr o'r dydd.

'Tasech chi'n gorfod dewis cymeriad chwedlonol/teledu/ffilm i gynrychioli'r blaid, pwy fyddech chi'n dewis a pham?

Mae gan wleidyddion o hyd ateb i gwestiynau, ond does gan rhai cwestiynau ddim atebion!