Lido Afan newydd i fod yn barod erbyn y Nadolig
- Cyhoeddwyd

Mae cyfleusterau chwaraeon gwerth £13.4m ym Mhort Talbot yn debyg o fod yn barod i'r cyhoedd erbyn "o gwmpas amser y Nadolig y flwyddyn yma", yn ôl swyddogion.
Cafodd Lido Afan ei ddinistrio gan dân yn 2009 a'i ddymchwel yn 2011.
Yn ôl Cyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot, mae'r gwaith ar amser ac mae'r gwaith concrit ar y ddau bwll wedi ei gwblhau.
Dywedodd Gareth Nutt, cyfarwyddwr yr amgylchedd y cyngor: "Mae'r cyngor yn hapus gyda datblygiad y gwaith hyd yn hyn.
"Gyda'r to trawiadol yn ei le mae'n bosib nawr i bobl weld sut fydd yr effaith o don yn edrych wedi iddo gael ei orffen."
Cafodd y Lido Afan gwreiddiol ei agor gan y Frenhines yn 1965, ac yn ei ddyddiau cynnar cafodd gyngherddau gan Spencer Davis Group a Pink Floyd eu cynnal yno, ac yn fwy diweddar, Coldplay a McFly.
Straeon perthnasol
- 9 Ebrill 2014
- 24 Tachwedd 2011
- 11 Hydref 2011
- 17 Rhagfyr 2009