Gobaith newydd ar ôl damwain ddifrifol

  • Cyhoeddwyd
Rhys LewisFfynhonnell y llun, Facebook/Rhys Lewis
Disgrifiad o’r llun,
Mae Rhys wedi cael ei ddewis gan Chwaraeon Anabledd Cymru ar gyfer y daith i Bortiwgal

Flwyddyn yn unig ar ôl damwain ddifrifol, fe fydd ffermwr ifanc yn teithio i Bortiwgal i weld os oes gobaith iddo gael dyfodol fel athletwr paralympaidd.

Union flwyddyn yn ôl i ddydd Mercher fe gafodd Rhys Lewis, 24 oed o gyffiniau Machynlleth, ddamwain ble falwyd rhan o'i asgwrn cefn wrth i goeden yr oedd yn ei thocio syrthio arno.

Ers hynny mae'n methu cerdded ac yn defnyddio cadair olwyn.

"Dwi'n cofio'r diwrnod fel tasa hi'n ddoe," meddai.

"Yndi, mae hi 'di bod yn flwyddyn anodd. 'Da chi'n gallu codi yn y bore a meddwl 'pam fi?'

"Y tri mis cynta' - pan o'n i dal yn yr ysbyty - oedd yr adeg anodda', ac wedyn, ychydig fisoedd ar ôl i fi ddod adre cyn gallu mynd 'nôl i ddreifio a phopeth.

"Ond unwaith nes i allu cael dreifio a gallu mynd allan o'r tŷ fy hun, fe ddaeth y freedom yn ôl, ac mae popeth wedi altro o hynny ymlaen."

Ffynhonnell y llun, Facebook/Rhys Lewis
Disgrifiad o’r llun,
'Y tri mis cynta' - pan o'n i dal yn yr ysbyty - oedd yr adeg anodda'

'Cadw'n bositif'

Roedd yn arfer bod yn chwaraewr rygbi dawnus - ond bellach mae drws arall yn y byd athletau paralympaidd wedi agor, a bydd yn teithio i Bortiwgal yr wythnos yma ar gyfer pythefnos o hyfforddiant arbennig.

Mae wedi cael ei ddewis gan Chwaraeon Anabledd Cymru ar gyfer y daith i weld os oes dyfodol iddo fel athletwr paralympaidd.

Er y ddamwain, mae'n dweud ei fod yn edrych yn bositif at y dyfodol, a beth bynnag a ddaw o'i obeithion paralympaidd.

"Ar hyn o bryd, does 'na ddim gobaith i mi allu cerdded eto, ond mae'n rhaid cadw'n bositif am y peth," meddai.

"Pwy a ŵyr be ddaw mewn pump, 10, 15 mlynedd trwy'r ymchwil mae'r elusennau ma' yn ei wneud.

"Oll fedra i wneud ydi cymryd pob diwrnod fel mae'n dod, a gweld pa mor bell fedra i fynd."